Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
26 Medi 2016
SL(5)015 - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, drwy newid disgrifiad un o'r cyrff a restrir yn yr Atodlen honno. Mae'r cyfeiriad at Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae hyn yn dilyn ailenwi'r corff corfforaethol hwnnw o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Deddf Wreiddiol: Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Fe’u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi
Fe'u gosodwyd ar: 13 Medi 2016
Yn dod i rym ar: 7 Hydref 2016